Chi tiết khóa học Addysg Gynradd gyda SAC - BA Edu (Hons), Teacher Education, University of Wales Trinity Saint David

Addysg Gynradd gyda SAC - BA Edu (Hons)

Anh Quốc

1

Nội dung bạn sẽ được học

Ydych chi’n angerddol am ysbrydoli meddyliau ifanc a llunio’r dyfodol? Mae ein cwrs Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd sydd eu hangen arnoch i fod yn athro llwyddiannus a phroffesiynol. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer y rheiny sy’n barod i wneud gwahaniaeth yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein cwrs yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn ymdrin â chyfnodau allweddol un a dau. Byddwch yn ymgymryd â Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) sy’n cwrdd â gofynion diweddaraf cwricwlwm yr Adran Addysg, gan sicrhau eich bod yn gwbl barod ar gyfer gofynion y proffesiwn addysgu. Byddwch yn datblygu priodoleddau proffesiynol sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa addysgu lwyddiannus. Mae’r rhaglen yn cynnwys cymysgedd o brofiadau dysgu damcaniaethol ac ymarferol. Byddwch yn archwilio materion proffesiynol craidd megis, asesu, rheoli ymddygiad, cynllunio gwersi a mynd i’r afael ag anghenion addysg arbennig. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro o gwmpas damcaniaethau ac ymchwil sy’n sail i ddatblygiad plant, lles a dysgu o 0-19 oed a sut mae’r rhain yn ymwneud â rôl athro proffesiynol. Byddwch yn elwa o baratoadau academaidd a phroffesiynol integredig. Mae ein hymagwedd yn cynnwys dulliau addysgol arloesol a lleoliadau ysgol bob blwyddyn, gan ganiatáu i chi gael profiad ymarferol mewn ystafelloedd dosbarth go iawn. Erbyn eich blwyddyn olaf, byddwch yn barod i ymgymryd â chyfrifoldebau addysgu sylweddol, gan eich paratoi i ddod yn athro hyderus sy’n gallu ymdopi â heriau amrywiol yn yr ystafell ddosbarth. Mae ein cwrs yn pwysleisio ymarfer myfyriol, gan eich annog i asesu a gwella eich dulliau addysgu yn barhaus. Byddwch yn derbyn cymorth personol gan ddarlithwyr a staff academaidd, gan eich helpu i osod a chyflawni nodau heriol. Mae’r rhwydwaith gymorth hon yn hanfodol i ddatblygu eich gwytnwch, eich meddwl beirniadol a’ch creadigrwydd. Bydd graddedigion y cwrs hwn yn gadael gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwarediad sydd eu hangen i gyflawni Statws Athro Cymwysedig (SAC). Byddwch yn barod i ddechrau eich gyrfa addysgu, gyda’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol y mae ysgolion yn gofyn amdanynt. P’un a ydych yn dewis gweithio yng Nghymru neu archwilio cyfleoedd y tu hwnt, byddwch yn barod i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc.

Khoa bạn sẽ vào học

Teacher Education

Các hình thức học tập

Toàn thời gian (3 năm)

Học phí
£15,600.00 (509,198,209 đ) một năm
Chi phí cố định
Ngày bắt đầu

Tháng Chín 2026

Địa điểm

Carmarthen Campus

College Road,

Carmarthen,

Carmarthenshire,

SA31 3EP, Wales, United Kingdom

*Có thể có những yêu cầu khác nhau về IELTS tùy thuộc vào khóa học bạn chọn

Thêm vào danh sách yêu thích

Product of

Dành cho những đã, đang và mơ ước du học

Xem trải nghiệm của những người đi trước, tham gia nhóm thảo luận về du học và hơn thế nữa!

Tham gia ngay!
cta banner image

Tư vấn du học