Nội dung bạn sẽ được học
Ar ein rhaglen (BA) Cymraeg, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, byddwch yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant, ac yn archwilio ystod o bynciau gwleidyddol hynod ddiddorol, o astudiaeth agos o sefydliadau ar lefel y wladwriaeth a’r is-wladwriaeth i archwiliad eang o wleidyddiaeth ar lefel fyd-eang. Mae hyn yn cynnwys themâu megis cyfiawnder, llywodraethu, gwrthdaro, poblyddiaeth, diogelwch a rhywedd.Trwy eich astudiaethau, byddwch yn cyflawni lefel uchel o sgiliau o ran Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol o ran cydweithredu a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy'n berthnasol i'r Gymru fodern. Cewch hefyd gyfle euraidd i astudio gwleidyddiaeth a llywodraeth gwladwriaethau unigol o'r ddinas sy'n gartref i'r Senedd, gan ymchwilio'n ddyfnach i syniadau gwleidyddol pwysig o ran rhyddid a democratiaeth. Mae astudio (BA) Cymraeg Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yng Nghaerdydd yn rhoi cyfle clir i chi fanteisio ar gysylltiadau helaeth yr adran â Senedd Cymru.Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn dilyn modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn gan ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd ar gyfer y mwyafrif o'r ail flwyddyn, a'r flwyddyn olaf i gyd. Mae opsiynau modiwlau yn caniatáu i chi archwilio pynciau megis ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol.Byddwch hefyd yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol, i ddatblygu eich hyder a'ch sgiliau proffesiynol. Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis yn ymwneud â'r Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth.Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, yn cynnwys cydweithio, cyfathrebu a meddwl yn feirniadol, ynghyd â dealltwriaeth ardderchog o'r byd gwleidyddol ar sawl lefel. Bydd eich sgiliau o werth p'un a fyddwch yn gweithio yn y llywodraeth, i sefydliadau tebyg i’r Cenhedloedd Unedig, neu yn y sectorau preifat neu wirfoddol. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol hefyd yn eithriadol o ddeniadol i gyflogwyr, sy’n golygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.**Nodweddion Unigryw’r Rhaglen****Cysylltiadau â sefydliadau gwleidyddol**\Manteisiwch ar gysylltiadau â Senedd y DU yn San Steffan, Senedd Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.**Hyder yn y gweithle**\Deall y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r Gymraeg mewn lleoliadau proffesiynol, a meithrin eich hyder a'ch sgiliau ymarferol trwy ddefnyddio'r Gymraeg ar leoliad.**Astudio modiwlau ar faterion byd-eang cyfredol**\Dewiswch fodiwlau sy'n amrywio o seiberddiogelwch a gwleidyddiaeth niwclear i’r newid yn yr hinsawdd a ffeministiaeth.**Cyfrannu at fywyd Cymreig bywiog**\Bod yn rhan o gymuned glòs, gynhwysol o siaradwyr Cymraeg o bob cefndir, a chyfrannu at ffyniant yr iaith Gymraeg yn y brifddinas.**Gyrfaoedd amrywiol a chyffrous**\Recent graduates have found roles in global development, international business, diplomacy, government intelligence and journalism.